Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mawrth, 4
Ebrill 2017
Amser y
cyfarfod: 13.30
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.
(30 munud)
Gweld y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
NNDM6290
Jane Hutt (Bro
Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheolau
Sefydlog 33.6 a 33.8:
Yn atal Rheol Sefydlog 12.20(i), 12.22 (i) a'r rhan honno o Reol Sefydlog 11.16 sy'n ei gwneud yn ofynnol bod y cyhoeddiad wythnosol o dan Reol Sefydlog 11.11 yn darparu'r amserlen ar gyfer busnes yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos ganlynol, er mwyn caniatáu i NNDM6289 gael eu hystyried yn y Cyfarfod Llawn ar ddydd Mawrth, 4 Ebrill 2017.
(90 munud)
NNDM6289
Jane Hutt (Bro
Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1.
Yn ailddatgan ei gefnogaeth gref i Bapur Gwyn Llywodraeth Cymru
–
Plaid Cymru, "Diogelu Dyfodol
Cymru" fel dull credadwy a chynhwysfawr o fynd ati i
amddiffyn a hyrwyddo buddiannau Cymru wrth i'r DU ymadael â'r
Undeb Ewropeaidd.
2. Yn nodi'r llythyr a anfonodd Prif Weinidog y DU ar 29 Mawrth 2017 yn unol ag Erthygl 50 o Gytuniad yr Undeb Ewropeaidd, a'r mandad negodi drafft a gyhoeddwyd gan Lywydd y Cyngor Ewropeaidd mewn ymateb iddo.
3. Yn nodi ymhellach Bapur Gwyn Llywodraeth y DU "Legislating for the United Kingdom's withdrawal from the European Union", a gyhoeddwyd ar 30 Mawrth 2017, sy'n amlinellu ei chynigion ar gyfer deddfwriaeth i roi ymadawiad y Deyrnas Unedig â'r Undeb Ewropeaidd ar waith, ond yn credu bod gwendidau mawr yn y dadansoddiad o'r rhyngberthynas rhwng pwerau presennol yr UE a'r setliad datganoli.
4.
Yn ailddatgan y bydd rhaid i'r strwythurau cyfansoddiadol a
llywodraethol yn dilyn ymadawiad y Deyrnas Unedig â'r Undeb
Ewropeaidd gael eu seilio ar barch llwyr i'r setliad datganoli a
threfniadau gwell ar gyfer cynnal perthynas rynglywodraethol, gyda
phedair llywodraeth y DU yn parchu ei gilydd mewn modd
cydradd.
5. Yn ailddatgan hefyd yn y modd cryfaf posibl y bydd rhaid i
unrhyw fframweithiau sy'n ymwneud â meysydd polisi
datganoledig, y bydd eu hangen o bosibl er mwyn sicrhau bod
marchnad y DU yn gweithredu'n esmwyth, gael eu cytuno drwy
gonsensws rhwng Llywodraeth y DU a phob un o'r tair Gweinyddiaeth
Ddatganoledig ac y dylent fod yn destun mecanweithiau annibynnol i
ddatrys anghydfod; rhaid i gytundeb a chonsensws fod wrth wraidd
dulliau gweithredu a fframweithiau cyffredin o'r fath.
6. Yn cefnogi Llywodraeth Cymru wrth iddi barhau i bwyso ar Lywodraeth y DU am gael cymryd rhan uniongyrchol yn y negodiadau ar ymadawiad y DU â'r Undeb Ewropeaidd ac ar y berthynas fasnach ac unrhyw berthynas arall â'r Undeb yn y dyfodol, er mwyn sicrhau bod buddiannau penodol Cymru yn cael eu diogel.
7. Yn cadarnhau ei farn na ddylai Cymru fod o dan unrhyw anfantais yn ariannol yn sgil ymadawiad y DU â'r Undeb Ewropeaidd, ac yn galw ar Lywodraeth y DU i wneud ymrwymiad llawn a chyhoeddus i'r perwyl hwnnw.
8.
Yn nodi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i roi adroddiad rheolaidd i'r
Cynulliad am y cynnydd a wneir o ran y materion hyn.
Dogfennau Ategol
Diogelu
Dyfodol Cymru
Llythyr y Prif Weinidog yn tanio Erthygl 50
Canllawiau Drafft yr UE ar gyfer Negodiadau Brexit
Papur Gwyn "Legislating for the United Kingdom's withdrawal from
the European Union"
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1
-
David J Rowlands
(Dwyrain De Cymru):
Dileu pwynt 1 a rhoi yn ei le:
Yn credu nad yw Papur Gwyn Llywodraeth Cymru - Plaid Cymru, "Diogelu Dyfodol Cymru" yn gredadwy oherwydd ei ragdybiaethau pesimistaidd afrealistig o gostau honedig gadael yr UE.
Gwelliant 2 - David J Rowlands (Dwyrain De Cymru):
Ym mhwynt 3, dileu 'ond yn credu bod gwendidau mawr yn y dadansoddiad o'r rhyngberthynas rhwng pwerau presennol yr UE a'r setliad datganoli'.
Gwelliant 3 - David J Rowlands (Dwyrain De Cymru):
Ym mhwynt 5, dileu 'bydd rhaid i' a rhoi yn ei le 'dylai'.
Gwelliant 4 - David J Rowlands (Dwyrain De Cymru):
Ym mhwynt 5, dileu 'rhaid i gytundeb a chonsensws fod wrth wraidd dulliau gweithredu a fframweithiau cyffredin o'r fath' a rhoi yn ei le:
'yn cydnabod bod ymddygiad Llywodraeth Cymru a Llywodraeth yr Alban wrth barhau i frwydro yn erbyn ymgyrch y refferendwm ar ôl y canlyniad ar 23 Mehefin 2016 yn gwneud canlyniad o'r fath yn afrealistig'.
Gwelliant 5 - David J Rowlands (Dwyrain De Cymru):
Dileu pwynt 6.
Gwelliant 6 - David J Rowlands (Dwyrain De Cymru):
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu, pe bai anhyblygrwydd yr UE yn atal cytundeb masnach rydd â'r DU, byddai costau pontio gadael yr UE, yn seiliedig ar reolau Sefydliad Masnach y Byd yn cael eu lleddfu'n sylweddol gan arbedion Prydain o £8 biliwn y flwyddyn mewn cyfraniadau net i Gyllideb yr UE, a refeniw net tebygol ar dollau ar fasnach rhwng yr UE a'r DU o £8 biliwn y flwyddyn.
Gwelliant 7 - Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno bil parhad (Cymru) er mwyn cynnal cyfansoddiad Cymru a throi yr holl ddeddfwriaeth Ewropeaidd sy'n berthnasol i feysydd polisi datganoledig yn ddeddfau i Gymru.
(45 munud)
(45 munud)
Dogfen
Atodol
Adolygiad
o wasanaethau treftadaeth
(45 munud)
NDM6280
Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol
Sefydlog 27.5:
Yn cymeradwyo
bod y fersiwn ddrafft o Orchymyn Cynllunio (Sylweddau Peryglus)
(Pennu'r Weithdrefn) (Cymru) 2017 yn cael ei llunio yn unol
â'r fersiwn ddrafft a
osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 10 Mawrth 2017.
Dogfennau Ategol
Gorchymyn
Cynllunio (Sylweddau Peryglus) (Pennu’r Weithdrefn) (Cymru)
2017
Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig)
Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a
Deddfwriaethol
NDM6281
Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol
Sefydlog 27.5:
Yn cymeradwyo
bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Ffioedd
am Geisiadau, Ceisiadau Tybiedig ac Ymweliadau Safle) (Cymru)
(Diwygio) 2017 yn cael ei llunio yn unol â'r fersiwn ddrafft
a
osdodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 10 Mawrth 2017.
Dogfennau Ategol
Rheoliadau
Cynllunio Gwlad a Thref (Ffioedd am Geisiadau, Ceisiadau Tybiedig
ac Ymweliadau Safle (Cymru) (Diwygio) 2017
Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig)
Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a
Deddfwriaethol
(15 munud)
NDM6291 Mark Drakeford (Gorllewin Caerdydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.47:
Yn cymeradwyo Bil Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru).
Dogfennau Ategol
Bil
Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig
(Cymru)
Memorandwm Esboniadol
Datganiad y Llywydd - Adran 111A(3) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006
- Bil Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi
Datganoledig (Cymru)
(0 munud)
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mercher, 5 Ebrill 2017